John 5:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir, yn wir y dywedaf y chwi, yr hwn a clyw vy‐gair, ac a gred yn hwn a’m d anvonawdd, y mae y dd aw vywyt tragyvythawl, ac ny ddaw i varn, eithyr ef aeth ffwrdd o yvvrth angae i’r bywyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Y neb sy’n clywed Fy ngair, ac yn credu i’r Hwn a’m danfonodd, ganddo y mae bywyd tragywyddol, ac i farn ni ddaw, eithr wedi myned trosodd y mae o farwolaeth i’r bywyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar fy ngwir; meddaf i chwi, y neb sy’n gwrando ar fy ngair i ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, y mae ganddo, ef fywyd tragwyddol, ac i farn ni ddaw, ond y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy'n gwrando ar beth dw i'n ei ddweud, ac yn credu yn Nuw wnaeth fy anfon i. Dyn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y sawl sy'n gwrando ar fy ngair i, ac yn credu'r hwn a'm hanfonodd i, yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw'n dod dan gondemniad; i'r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn gwrando fy ngair, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, sydd ganddo fywyd tragywyddol, ac nid yw yn dyfod i Farn, eithr y mae efe wedi myned trosodd allan o farwolaeth i fywyd.