John 5:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir, yn wir y dywedaf y chwi, y daw yr amser, ac yrowan yw, pan glyw ’r meirw lef Map Duw: a’r sawl a ei clywant, a vyddant vyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan fydd i’r meirw glywed llais Mab Duw, a’r rhai a glywsant fyddant byw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar fy ngwir, meddaf i chwi; y mae adeg yn dyfod ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lais mab Duw a bydd byw y rhai a’i clywodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae'r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo'r meirw lef Mab Duw: a'r rhai a glywant, a fyddant byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd y rhai sy'n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy'n gwrando ar beth mae'n ei ddweud yn byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y meirw yn clywed llais Mab Duw, a'r rhai sy'n clywed yn cael bywyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae yr awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo y Meirw lais Mab Duw, a'r rhai a glywant a fyddant byw.