John 5:32 — Compare Translations

6 translations compared side by side

Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Arall sydd yn tystiolaethu am Danaf, a gwn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae Efe yn ei thystiolaethu am Danaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Arall yw’r hwn sy’n tystio amdanaf i, a gwn mai gwir yw’r dystiolaeth a dystia ef amdanaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi; ac mi a wn mai gwir yw'r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae un arall sy'n rhoi tystiolaeth o'm plaid i, a dw i'n gwybod fod ei dystiolaeth e amdana i yn ddilys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae un arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, ac mi wn mai gwir yw'r dystiolaeth y mae ef yn ei thystio amdanaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Arall ydyw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fi, ac mi wn mai gwir yw y dystiolaeth y mae yn ei thystiolaethu am danaf fi.