John 5:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y mae i mi testoliaeth mwy na thestolaeth Ioan: can ys y gweithredoedd a roes y Tat i mi y’w gorphen, ’sef y gweithredoedd hyny, a’r ydd wy vi yn ei gwneythur, a testolaethant am dana vi, may’r Tat am d anvonawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond Genyf Fi y mae tystiolaeth fwy nag Ioan, canys y gweithredoedd y rhai a roddes y Tad i Mi i’w gorphen, y gweithredoedd eu hunain, y rhai yr wyf yn eu gwneuthur, sy’n tystiolaethu am Danaf mai y Tad a’m danfonodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gennyf i y mae tystiolaeth sydd fwy nag eiddo Ioan, canys y gweithredoedd a roes y tad imi i’w dwyn i ben, — y gweithredoedd hynny yr wyf yn eu gwneuthur, — sydd yn tystio amdanaf mai’r tad a’m hanfonodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i'w gorffen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai'r Tad a'm hanfonodd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i'n ei wneud (y gwaith mae'r Tad wedi ei roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy na'r eiddo Ioan, oherwydd y gweithredoedd a roes y Tad i mi i'w cyflawni, yr union weithredoedd yr wyf yn eu gwneud, y rhain sy'n tystiolaethu amdanaf fi mai'r Tad sydd wedi fy anfon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y mae genyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd y mae y Tâd wedi eu rhoddi i mi, fel eu gorphenwyf, y gweithredoedd hyny yr wyf yn eu gwneuthur sydd yn tystiolaethu am danaf fi, mai y Tâd sydd wedi fy anfon i.