John 5:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Tat yntef, yr hwn am d anvonawdd, a destolaetha am danaf. Ny chlywsoch y lef erydd ef vn amser, ac ny welsoch ei wedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y Tad, yr Hwn a’m danfonodd, Efe a dystiolaethodd: nac Ei lais Ef a glywsoch erioed, nac Ei wedd a welsoch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r tad a’m hanfonodd, hwnnw sydd wedi tystio amdanaf. Ei lais ef nis clywsoch chwi erioed, a’i lun nis gwelsoch,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd i, efe a dystiolaethodd amdanaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae'r Tad ei hun, yr un anfonodd fi, wedi tystiolaethu amdana i. Ond dych chi ddim wedi clywed ei lais heb sôn am ei weld!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r Tad a'm hanfonodd i, y mae ef ei hun wedi tystiolaethu amdanaf fi. Nid ydych chwi erioed wedi clywed ei lais na gweld ei wedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i, efe sydd wedi tystiolaethu am danaf fi. Nid ydych erioed naill nac wedi clywed ei lais ef, nac wedi gweled ei wedd ef.