John 5:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwiliwch yr Scry p t h urae: can ys ynthwynt hvvy y tybiwchwi y ceffwch vywyt tragyvythawl a’ hwy ynt yr ei a destolaethant am dana vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys chwi a feddyliwch mai ynddynt hwy y mae bywyd tragywyddol i chwi; a hwynt-hwy yw y rhai sy’n tystiolaethu am Danaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr ydych yn chwilio’r ysgrythurau, am eich bod yn tybio cael ynddynt fywyd tragwyddol, a’r rheiny sydd yn tystio amdanaf i,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt‐hwy yw'r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n astudio'r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae'r ysgrifau hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych yn chwilio'r Ysgrythurau oherwydd tybio yr ydych fod ichwi fywyd tragwyddol ynddynt hwy. Ond tystiolaethu amdanaf fi y mae'r rhain;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr ydych yn chwilio yr Ysgrythyrau: canys yr ydych yn tybied cael ynddynt hwy fywyd tragywyddol; a hwynthwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi: