John 5:43 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
My vi a ðaethym yn Enw vy‐Tat, ac ni’m d erbyniwch vi: a’s arall a ddaw yn y enw h un, hwnw a dd erbyniwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi a ddaethum yn enw Fy Nhad, ac nid ydych yn Fy nerbyn: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr wyf i wedi dyfod yn enw fy nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn; os daw arall yn ei enw ei hun, chwi dderbyniwch hwnnw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi dod i gynrychioli fy Nhad, a dych chi'n fy ngwrthod i; ond os daw rhywun arall ar ei liwt ei hun, byddwch yn ei dderbyn e!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi wedi dod yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os daw rhywun arall yn ei enw ei hun, fe dderbyniwch hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr ydwyf wedi dyfod yn enw fy Nhâd, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch.