John 5:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa voð y gellw‐chwi gredu, a’ chwi yn d erbyn anrydedd y gan y gylydd, eb ychvvy gaisiaw ’r anrydedd y sydd o Dduw yn vnic?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa fodd y gellwch chwi gredu, yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac y gogoniant y sydd oddiwrth Dduw yn unig nid ydych yn ei geisio?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa fodd y gellwch chwi gredu a chwithau’n derbyn clod y naill gan y llall a heb geisio’r clod a ddaw oddiwrth yr unig Dduw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio'r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sut allwch chi gredu? Dych chi'n mwynhau canmol eich gilydd, tra'n gwneud dim ymdrech i dderbyn y ganmoliaeth sy'n dod oddi wrth yr unig Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sut y gallwch gredu, a chwithau yn derbyn clod gan eich gilydd a heb geisio'r clod sydd gan yr unig Dduw i'w roi?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa fodd y gallwch chwi gredu, gan dderbyn gogoniant oddi wrth eich gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth yr Unig Dduw?