John 5:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na thybiwch y cyhuðaf vi chwi wrth vy‐Tad: y mae vn a’ch cyhudda chvvi ’sef Moysen, yn yr hwn yr ymðiriedw chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na thybiwch mai Myfi a’ch cyhuddaf wrth y Tad: y mae yr hwn yn eich cyhuddo, Mosheh, yn yr hwn yr ydych chwi yn gobeithio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na thybiwch y cyhuddaf i chwi ger bron y tad; y mae a’ch cyhudda chwi, Moesen, y gŵr yr ydych chwi wedi gobeithio ynddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a'ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy'r un sy'n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch meddwl mai myfi fydd yn dwyn cyhuddiad yn eich erbyn gerbron y Tad. Moses yw'r un sydd yn eich cyhuddo, hwnnw yr ydych chwi wedi rhoi eich gobaith arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na thybiwch y cyhuddaf chwi wrth y Tâd: y mae un a'ch cyhudda chwi, Moses, yn yr hwn yr ydych wedi gobeithio.