John 5:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan ’welawdd yr Iesu ef yn gorwedd, a’ gwybot y vot ef ys cyhyd o amser yn glaf, ef a ddyuot wrthaw, A wyllysy dy wneuthu’r yn iach?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Iesu yn gweled hwn yn gorwedd, ac yn gwybod mai am amser maith bellach ei fod felly, a ddywedodd wrtho, A ewyllysi di fyned yn iach?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan welodd yr Iesu hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod felly ers talm bellach, dywed wrtho: “A fynni di ddyfod yn iach?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd Iesu e'n gorwedd yno, ac roedd yn gwybod ers faint roedd y dyn wedi bod yn y cyflwr hwnnw, felly gofynnodd iddo, “Wyt ti eisiau gwella?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Iesu ef yn gorwedd yno, a deall ei fod fel hyn ers amser maith, gofynnodd iddo, "A wyt ti'n dymuno cael dy wella?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, ac yn gwybod ei fod ef felly weithian amser maith, a ddywed wrtho, A fyni di ddyfod yn iach?