John 5:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Atepawdd y claf yddaw, Arglwyð, ny d oes genyf nep, pan gynnyrfer y dw fr, i’m dodi yn y llyn: eithy’r tra vwy vi yn dyuot, arall a ddescen d o’m blaen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Iddo yr attebodd y claf, Arglwydd, nid oes genyf ddyn i’m bwrw i’r llyn pan gynhyrfer y dwfr; ond tra y deuaf fi, arall a ddisgyn o’m blaen i.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd y claf iddo: “Syr, neb nid oes gennyf, pan gynhyrfer y dwfr, i’m bwrw i’r llyn, ond tra fwyf i’n dyfod, â rhywun arall i lawr o’m blaen i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y claf a atebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i'm bwrw i'r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o'm blaen i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Syr,” meddai'r dyn, “does gen i neb i'm helpu i fynd i mewn i'r pwll pan mae'r dŵr yn cyffroi. Tra dw i'n ceisio mynd i mewn, mae rhywun arall yn llwyddo i gyrraedd o mlaen i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y claf ef, "Syr, nid oes gennyf neb i'm gosod yn y pwll pan ddaw cynnwrf i'r du373?r, a thra byddaf fi ar fy ffordd bydd rhywun arall yn mynd i mewn o'm blaen i."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y claf a atebodd iddo, Syr, nid oes genyf ddyn, pan gynhyrfer y dwfr, i'm bwrw i'r llyn: ond tra yr wyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o'm blaen i.