John 6:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot, Gwnewch ir dynion hyn eistedd, (Ac ydd oedd yno wellt‐glas lawer) yno yr eisteddawdd y gwyr yn‐cylch pemp mil o rifedi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd yr Iesu, gwnewch i’r dynion led-orwedd. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan. Gan hyny, lled-orweddodd y gwŷr, ynghylch pum mil o honynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yr Iesu: “Gwnewch i’r bobl orwedd i lawr,” (yr oedd glaswellt lawer yn y lle). Felly gorweddodd y dynion, a’u rhif tua phum mil.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma'r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu, "Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr." Yr oedd llawer o laswellt yn y lle, ac eisteddodd y dynion i lawr, rhyw bum mil ohonynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a ddywedodd, Gwnewch i'r gwrywod orwedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y lle. Am hyny y gwŷr a orweddasant i lawr mewn nifer ynghylch pum mil.