John 6:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a gymerth y bara, ac a ddiolches, ac ei rhanoð ir discipulon, a’r discipulō, ir ei oeddynt yn eisteð: a’r vn moð or pyscot cymmeint ac a vynnesont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y cymmerth yr Iesu y torthau; ac wedi diolch, rhannodd i’r rhai yn eu lled-orwedd; ac yr un ffunud o’r pysgod, gymmaint ag a fynnent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna cymerth yr Iesu y torthau ac wedi diolch rhannodd hwy rhwng y rhai oedd yn gorwedd, ac yn yr un modd hefyd o’r pysgod, faint a fynnent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhannodd i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o'r pysgod, cymaint ag a fynasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl dweud gweddi o ddiolch, eu rhannu i'r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda'r pysgod, a chafodd pawb cymaint ag oedd arnyn nhw eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd 'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny a gymmerodd y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhanodd i'r rhai oedd yn eistedd i fwyta: yr un modd hefyd o'r pysgod cymaint ag a fynent.