John 6:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno pan welawð y dynion wneythyd or Iesu yr arwyð hyn, y dywedesant, Diau mae hwn y’w Prophwyt a ddauei ir byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y dynion, wedi gweled yr arwydd a wnaethai Efe, a dywedasant, Hwn yw, yn wir, y Prophwyd oedd i ddyfod i’r byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd y bobl, gan hynny, wedi gweled yr arwydd a wnaeth: “Hwn yn wir yw’r proffwyd sy’n dyfod i’r byd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai'r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw'r proffwyd oedd ar ddyfod i'r byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i'r bobl weld yr arwydd gwyrthiol hwn, roedden nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai hwn ydy'r Proffwyd ddwedodd Moses ei fod yn dod i'r byd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y bobl yr arwydd hwn yr oedd Iesu wedi ei wneud, dywedasant, "Hwn yn wir yw'r Proffwyd sy'n dod i'r byd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaeth yr Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Proffwyd sydd yn dyfod i'r byd.