John 6:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly pan wybu Iesu vot yn y bryd hwy ddyuot, a’i gymryd ef yw wneuthur yn Vrenhin, ef a dynnawdd heibio drachefyn ir mynyth vvrtho y hun an.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Iesu, gan hyny, yn gwybod eu bod ar fedr dyfod a’i gipio Ef, fel y gwnaent Ef yn frenhin, a giliodd drachefn i’r mynydd, Ei hunan yn unig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, wedi deall bod yn eu bryd ddyfod a’i gipio i’w wneuthur yn frenin, ciliodd yr Iesu yn ôl i’r mynydd ar ei ben ei hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a'i gipio ef i'w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i'r mynydd, ei hunan yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gan fod Iesu'n gwybod eu bod nhw'n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny'r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna synhwyrodd Iesu eu bod am ddod a'i gipio ymaith i'w wneud yn frenin, a chiliodd i'r mynydd eto ar ei ben ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod hyd y nod i'w gipio ymaith, fel y gwnelent ef yn frenin, a ymneillduodd drachefn i'r mynydd, wrtho ei hun.