John 6:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A gwedy yddynt rwyfo yn‐cylch pemp stad ar vcain, neu ddec stad ar ycain, wy welent yr Iesu yn gorymddaith ar y mor, ac yn dy nesau at y llong: ac ofny a wnaethant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna wedi rhwyfo o honynt ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o stadia, gwelsant yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesau at y cwch; ac ofnasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly wedi rhwyfo tua phum neu ddeg ystad ar hugain, y maent yn gweled yr Iesu’n rhodio ar y môr ac yn dyfod yn agos i’r llong, a daeth ofn arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedden nhw wedi rhwyfo rhyw dair neu bedair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw bum neu chwe chilomedr, dyma hwy'n gweld Iesu yn cerdded ar y mr ac yn nesu at y cwch, a daeth ofn arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, y maent yn dal sylw ar yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn dyfod yn agos at y cwch: a hwy a ofnasant.