John 6:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thorf vawr y cynlynawð ef, o bleit yddwynt welet y arwyddion ef, a’r a wnaethoeð ar y cleifion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chanlynai Ef dyrfa fawr, canys gwelent yr arwyddion a wnelai ar y cleifion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn am eu bod yn gweled yr arwyddion a wnâi ar y cleifion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thyrfa fawr a'i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld yr arwyddion gwyrthiol o iacháu pobl oedd yn sâl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn, oherwydd yr oeddent wedi gweld yr arwyddion yr oedd wedi eu gwneud ar y cleifion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thyrfa fawr oedd yn ei ganlyn ef, canys yr oeddynt yn dal sylw ar ei arwyddion y rhai a wnaethai efe ar y cleifion.