John 6:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yn ewyllysgar y d erbyniesont ef ir llong, a’r llong oedd yn y van wrth y tir ir lle ydd elent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna yn ewyllysgar y derbyniasant Ef i’r cwch, ac yn uniawn y cwch a ddaeth at y tir i’r hwn yr aent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
felly derbyniasant ef yn llawen i’r llong, ac ar unwaith yr oedd y llong wrth y lan yr oeddynt yn hwylio ati.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y derbyniasant ef yn chwannog i'r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna roedden nhw'n fodlon ei dderbyn i'r cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhw'n anelu ati.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent am ei gymryd ef i'r cwch, ond ar unwaith cyrhaeddodd y cwch i'r lan yr oeddent yn hwylio ati.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oeddynt yn ewyllysio gan hyny gymmeryd ef i'r cwch, ac yn ebrwydd yr oedd y cwch wrth y tir yr oeddynt yn myned ymaith iddo.