John 6:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tranoyth y popul yr ei a safai y tu arall ir mor, a welawdd na d oedd llong arall yno, any d yr vn, yr aethei ey ðiscipulon y dd hi, ac nad aethesei yr Iesu y gyd ei ddiscipulon i’r llong, eithyr myned ymaith o ei ddiscipulon ef vvrthyn yhunain,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trannoeth, y dyrfa, yr hon a safai y tu hwnt i’r môr, a welodd nad oedd cwch arall yno oddieithr un, ac nad aethai yr Iesu ynghyda’i ddisgyblion i’r cwch, eithr ar eu pennau eu hunain yr aethai y disgyblion ymaith,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trannoeth gwelodd y dyrfa oedd wedi aros yr ochr draw i’r môr na bu dim cwch arall yno ond un, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong ond mai’r disgyblion yn unig a aethai ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trannoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i'r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i'r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai'r Iesu gyda'i ddisgyblion i'r llong, ond myned o'i ddisgyblion ymaith eu hunain;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod wedyn roedd tyrfa o bobl yn dal i ddisgwyl yr ochr draw i'r llyn. Roedden nhw'n gwybod mai dim ond un cwch bach oedd wedi bod yno, a bod y disgyblion wedi mynd i ffwrdd yn hwnnw eu hunain. Doedd Iesu ddim wedi mynd gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth, sylwodd y dyrfa oedd wedi aros ar yr ochr arall i'r mr na fu ond un cwch yno. Gwyddent nad oedd Iesu wedi mynd i'r cwch gyda'i ddisgyblion, ond eu bod wedi hwylio ymaith ar eu pennau eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tranoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll yr ochr arall i'r môr nad oedd cwch bychan arall yno ond un, ac nad aethai yr Iesu gyd â'i Ddysgyblion i'r cwch, ond myned o'i Ddysgyblion ymaith eu hunain: