John 6:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An d pan welawdd y popul na d oedd yr Iesu yno, na ei ddiscipulon, a’ nwy the a gymer e sont longae, ac a daethont i Capernaum, gan geisiaw yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan hyny, pan welodd y dyrfa nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, yr aethant hwy hefyd i’r cychod, a daethant i Caphernahwm gan geisio’r Iesu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno na’i ddisgyblion, aethant hwythau i’r cychod, a daethant i Gapernaum gan geisio’r Iesu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na'i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, na'i ddisgyblion chwaith, dyma nhw'n mynd i mewn i'r cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno, na'i ddisgyblion chwaith, aethant hwythau i'r cychod hyn a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pan welodd y dyrfa gan hyny nad yw yr Iesu yno, na'i Ddysgyblion, hwy eu hunain a aethant i gychod bychain, ac a ddaethant i Capernaum, gan geisio yr Iesu.