John 6:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepawdd y dd‐ wynt, ac a dyuot, Yn wir, yn wir y dywedaf y chwi, Ny d ych i’m caisiaw, o bleit ywch wel e t y gwyrthiae, any d o bleit ywch vwyta o’r torthae, ach’ llenwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Iddynt yr attebodd yr Iesu, a dywedodd, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Fy ngheisio yr ydych, nid oherwydd gweled o honoch arwyddion, eithr oherwydd bwytta o honoch o’r torthau a’ch llenwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu iddynt a dywedodd: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr ydych yn fy ngheisio i nid am i chwi weled arwyddion, ond am i chwi fwyta o’r bara a chael digon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o'r torthau, a'ch digoni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, dych chi'n edrych amdana i am eich bod wedi bwyta'r torthau a llenwi'ch boliau, dim am eich bod wedi deall arwyddocâd y wyrth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu hwy, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, yr ydych yn fy ngheisio i, nid am ichwi weld arwyddion, ond am ichwi fwyta'r bara a chael digon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych yn fy ngheisio i, nid oblegyd i chwi weled arwyddion, eithr oblegyd i chwi fwyta o'r torthau, a'ch digoni.