John 6:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na thraveiliwch am y bwyt a goll ir, eithyr am y bwyt a barha i vywyt tragywythawl, yr hwn a rydd Map y dyn y chwi: can ys hwn a in seliawð Duw ’r Tad.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd y sy’n aros i fywyd tragywyddol, yr hwn Mab y Dyn a’i dyry i chwychwi; canys Hwn y bu i’r Tad Ei selio, sef Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gweithiwch nid am y bwyd sy’n darfod ond am y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol, a ddyry mab y dyn i chwi. Canys arno ef y rhoes y tad, sef Duw, ei sêl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim y math o fwyd sy'n difetha dylech chi ymdrechu i'w gael, ond y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol — fi, Mab y Dyn sy'n rhoi'r bwyd hwnnw i chi. Mae Duw y Tad wedi dangos fod sêl ei fendith arna i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gweithiwch, nid am y bwyd sy'n darfod, ond am y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol. Mab y Dyn a rydd hwn ichwi, oherwydd arno ef y mae Duw y Tad wedi gosod sl ei awdurdod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ymegniwch, nid am y bwyd sydd yn darfod, ond am y bwyd sydd yn parhâu i fywyd tragywyddol, yr hwn a ddyry Mab y Dyn i chwi: canys hwn a seliodd y Tâd, sef Duw.