John 6:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywed e sont gan hyny wrthaw, Pa ’r arwydd gan hyny a wnei di, val ey gwelom, ac y’th’ credom? pa beth wyt’ yn ei weithredu?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa beth, gan hyny, yr wyt yn ei wneuthur, yn arwydd, fel y gwelom ac y credom i Ti? Pa beth yr wyt yn ei weithredu?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddent wrtho: “Beth felly a wnei’n arwydd inni weled a chredu ynot? Pa waith a wnei?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Felly gwna wyrth fydd yn arwydd clir i ni o pwy wyt ti. Byddwn ni'n credu ynot ti wedyn. Beth wyt ti am ei wneud?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Os felly," meddent wrtho, "pa arwydd a wnei di, i ni gael gweld a chredu ynot? Beth fedri di ei wneud?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti gan hyny yn ei wneuthur, fel y gwelom ac y credom i ti? Pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?