John 6:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvawt yr Iesu wrthwynt, Yn wir, yn wir y dywedaf ychwy, Ny d Moysen a roes y‐chwi ybara hwnw o’r nef, eithyr y Tat meu vi ysy yn rho ddi y‐chwy y gwir vara o’r nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrthynt, gan hyny, y dywedodd yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Nid Mosheh a roddodd i chwi y bara o’r nef, eithr Fy Nhad sy’n rhoddi i chwi y bara o’r nef, y gwir fara;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai’r Iesu felly wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, nid Moesen a roes i chwi’r bara o’r nefoedd, ond fy nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nefoedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi'r bara o'r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi'r gwir fara o'r nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o'r nefoedd i chi; fy Nhad sy'n rhoi bara o'r nefoedd i chi nawr — y bara go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid Moses sydd wedi rhoi'r bara o'r nef ichwi, ond fy Nhad sydd yn rhoi ichwi y gwir fara o'r nef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi y Bara allan o'r Nef, ond fy Nhâd sydd yn rhoddi i chwi y Bara allan o'r Nef, y Gwir Fara.