John 6:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedawð yr Iesu wrthynt, Mi vi yw ’r bara ’r bywyt: yr vn a ddel ata vi, ny ’s newyna ddim, a’r vn a gred yno vi, ny sycheda byth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sy’n dyfod Attaf ni newyna ddim; ac yr hwn sy’n credu Ynof, ni sycheda ddim, byth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu wrthynt: “Myfi ydyw bara’r bywyd. Y neb a ddaw ataf i, ni ddaw newyn arno byth, a’r neb sy’n credu ynof i, ni ddaw syched arno byth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara'r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a'r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Iesu'n datgan, “Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi ddim yn sychedu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrthynt, "Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw Bara Bywyd: Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna ddim; a'r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda ddim un amser.