John 6:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn yw ’wyllys y Tat yr hwn a’m d anvonawð i, na bo o’r oll a roddes ef i mi, golli o hanof ðim, eithyr ei gyvodi drachefyn yn y dydd dywethaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn yw ewyllys yr Hwn a’m danfonodd, o ’r cwbl a roddes Efe i Mi, na chollwn ddim o hono, eithr ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, — o’r cwbl a roes imi na chollwyf ddim, ond ei atgyfodi yn y dydd diwethaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn yw ewyllys y Tad a'm hanfonodd i; o'r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma beth mae'r hwn anfonodd fi yn ei ofyn — na fydda i'n colli neb o'r rhai mae wedi eu rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i yw hyn: nad wyf i golli neb o'r rhai y mae ef wedi eu rhoi imi, ond fy mod i'w hatgyfodi yn y dydd olaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn yw ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i: Fod yr oll y mae efe wedi ei roddi i mi, na chollwn ddim o hono, eithr bod i mi ei adgyfodi y Dydd Diweddaf.