John 6:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn yw ’wyllys yr hwn a’m d anvonawdd i, bod y bawp dyn a’ra wyl y Map, ac a gred yndaw, gahel bywyt tragyvythawl: a’ mi y cyfodaf ef y vyny dd yn y dydd dywethaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys hyn yw ewyllys Fy Nhad, y bo i bob un y sy’n gweled y Mab, ac yn credu Ynddo, gael bywyd tragywyddol; ac Myfi a’i hadgyfodaf yn y dydd diweddaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys hyn yw ewyllys fy nhad, i bob un sy’n edrych ar y mab ac yn credu ynddo gael bywyd tragwyddol, a minnau a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn yw ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i; cael o bob un a'r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a'i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy'n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i'n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy'n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol. A byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys hyn yw ewyllys fy Nhâd: cael i bob un sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo, fywyd tragywyddol: a bod i mi ei adgyfodi ef y Dydd Diweddaf.