John 6:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y murmuresont yr Iudaeon wrthaw, o bleit dywedyt o hanaw, Mi vi yw’r bara, a ddescen d as o’r nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y grwgnachodd yr Iwddewon am Dano Ef, oherwydd dywedyd o Hono, “Myfi yw’r bara a ddaeth i wared o’r nef,” a dywedasant,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dechreuodd yr Iddewon furmur amdano am iddo ddywedyd, “Myfi yw’r bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd,”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw'r bara a ddaeth i waered o'r nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, “Fi ydy'r bara ddaeth i lawr o'r nefoedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dechreuodd yr Iddewon rwgnach amdano oherwydd iddo ddweud, "Myfi yw'r bara a ddisgynnodd o'r nef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd yr Iuddewon gan hyny yn grwgnach am dano ef, o herwydd iddo ddywedyd, Myfi yw y Bara yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef,