John 6:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ dywedyt a wnaethant, Any d hwn yw Iesu map Ioseph, yr hwn a adwaenom ni y dat a y vam? pa vodd gan hyny a dywait ef, mai O’r nef y descen d ais?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid Hwn yw Iesu Mab Ioseph, yr Hwn, nyni a adwaenom Ei dad a’i fam? Pa fodd y dywaid Efe yn awr, “O’r nef y daethum i wared?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedasant: “Onid Iesu yw hwn, fab Ioseff, a ninnau’n adnabod ei dad a’i fam? Pa fodd y mae’n dywedyd yr awron, ‘O’r nefoedd yr wyf wedi dyfod i lawr’?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O'r nef y disgynnais?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dŷn ni'n nabod ei dad a'i fam. Sut mae'n gallu dweud, ‘Dw i wedi dod i lawr o'r nefoedd’?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Onid hwn," meddent, "yw Iesu fab Joseff? Yr ydym ni'n adnabod ei dad a'i fam. Sut y gall ef ddweud yn awr, 'Yr wyf wedi disgyn o'r nef'?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu, mab Joseph, tâd a mam yr hwn a adwaenom ni? Pa fodd yr awrhon y mae efe yn dywedyd, Yr wyf fi wedi dyfod i waered o'r Nef?