John 6:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny aill nep ddyvot ata vi, o ddyeithr ir Tat, yr hwn am d anvonawdd i, y dynnu ef: ac mi y cyfodaf ef y vyny yn y dydd dywethaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ni all neb ddyfod Attaf oddiethr i’r Tad, yr Hwn a’m danfonodd, ei dynnu ef; ac Myfi a’i hadgyfodaf yn y dydd diweddaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni all neb ddyfod ataf i heb i’r tad a’m hanfonodd ei dynnu ef, ac atgyfodaf innau ef yn y dydd diwethaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a'i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni all neb ddod ataf fi heb i'r Tad a'm hanfonodd i ei dynnu; a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr i'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd, ei at‐dynu ef: a myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf.