John 6:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y mae yn escrivenedic yn y Prophwyti, Ac wy a vyddant oll dyscedic y gan Dduw. Pawp dyn gan hyny a’r a glybu, y gan Tat, ac a ddyscawdd, a ddaw at y‐vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y mae yn ysgrifenedig yn y Prophwydi “A byddant oll wedi eu dysgu gan Dduw:” pob un o’r a glywodd gan y Tad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae adnod yn y proffwydi: ‘A byddant bawb dan addysg Duw.’ Daw pawb sydd wedi gwrando ar Dduw a dysgu ataf i;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n dweud yn ysgrifau'r Proffwydi: ‘Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Dduw.’ Mae pawb sy'n gwrando ar y Tad, ac yn dysgu ganddo, yn dod ata i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n ysgrifenedig yn y proffwydi: 'Fe gnt oll eu dysgu gan Dduw.' Y mae pob un a wrandawodd ar y Tad ac a ddysgodd ganddo yn dod ataf fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae yn ysgrifenedig yn y Proffwydi A phawb a fyddant ysgolheigion Duw. Pob un a glywodd oddi wrth y Tâd, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi.