John 6:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a gyuodes i vyny dd ei lygait, a’ phan weles dyrfa vawr yn dyuot attaw, ef a dyvot wrth Philip, O b’le y prynwn vara, val y caffo yr ei hynn beth yw vwyta?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna’r Iesu, wedi dyrchafu Ei lygaid, a gweled fod tyrfa fawr yn dyfod Atto, a dywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn fara fel y bwyttao y rhai hyn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly wedi codi ei olygon a gweled bod tyrfa fawr yn dyfod ato, medd ef wrth Phylip: “O ba le y prynwn fara i’r rhain i gael bwyd?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod tuag ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni'n mynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cododd Iesu ei lygaid a gwelodd fod tyrfa fawr yn dod tuag ato, ac meddai wrth Philip, "Ble y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfyddodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd wrth Philip, O ba le y gallwn brynu bara, fel y bwytâo y rhai hyn?