John 6:51 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys mi yw ’r bara byw iol, yr hwn a ðescen dais o’r nef: a’s bwyty neb un o’r bara hwn e vydd byw byth: a’r bara a roddwy vi, vy‐cnawd yw, yr hwn a roddwy vi tros vywyt y byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi yw’r bara byw, yr hwn a ddaeth i wared o’r nef. Os bwytty neb o’r bara hwn, bydd efe fyw yn dragywydd: ac y bara, yr hwn a roddaf Fi, Fy nghnawd yw, tros fywyd y byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Myfi yw’r bara byw a ddaeth i lawr o’r nefoedd. Os bwyta neb o’r bara hwn, bydd fyw yn dragwyddol. A’r bara, meddaf, a roddaf i, fy nghnawd i ydyw dros fywyd y byd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi yw'r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o'r nef. Os bwyty neb o'r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A'r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A fi, sydd wedi dod i lawr o'r nefoedd, ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Os ydy rhywun yn bwyta'r bara hwn bydd yn byw am byth. A'r bara dw i'n ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn i'r byd gael byw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Myfi yw'r bara bywiol hwn a ddisgynnodd o'r nef. Caiff pwy bynnag sy'n bwyta o'r bara hwn fyw am byth. A'r bara sydd gennyf fi i'w roi yw fy nghnawd; a'i roi a wnaf dros fywyd y byd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Myfi yw y Bara Bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef: os bwyty neb o'r Bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A'r Bara a roddaf fi, fy nghnawd i ydyw, dros fywyd y byd.