John 6:53 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvawt yr Iesu wrth‐wynt, Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwi, A ny vwytewch’ gnawt y Map y dyn, ac yfet ei waet, nyd oes y chwy vywyt ynoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, y dywedodd yr Iesu wrthynt, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Oni fwyttewch gnawd Mab y Dyn ac yfed Ei waed Ef, nid oes genych fywyd ynoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna meddai’r Iesu wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, oni fwytewch gnawd mab y dyn ac yfed ei waed, nid oes gennych fywyd ynoch eich hunain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, oni fwytewch gnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, ni bydd gennych fywyd ynoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytêwch gnawd Mab y Dyn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes genych fywyd ynoch eich hunain.