John 6:54 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy pynac a vwytao vy‐cnawd i, ac a yfo vy‐gwaet, y mae iddaw vywyt tragyvythawl, a’ mi y cyfoda ef y vyny yn y dydd dyweddaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sydd yn bwytta Fy nghnawd I, ac yn yfed Fy ngwaed I, sydd a chanddo fywyd tragywyddol, ac Myfi a’i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae gan y neb a fwytao fy nghnawd i, ac a yfo fy ngwaed i, fywyd tragwyddol, ac atgyfodaf innau ef yn y dydd diwethaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a'i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy'n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gan y sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragywyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf.