John 6:58 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn yw ’r bara a ðescennodd o’r nef: ny d val y bwytaodd y ch tadae chwi y manna, a’ marw o hanynt. Yr vn a vwyty o’r bara hwn, a vydd byw byth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn yw’r bara a ddaeth i wared o’r nef: nid fel y bwyttaodd eich tadau ac y buont feirw: yr hwn sy’n bwytta’r bara hwn fydd byw yn dragywydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwn yw’r bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd, nid fel y tadau’n bwyta a marw; y neb a fwytao’r bara hwn, bydd ef fyw yn dragywydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma'r bara a ddaeth i waered o'r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta'r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n wahanol i'r bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr o'r nefoedd, a bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn byw am byth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r bara a ddisgynnodd o'r nef. Nid yw hwn fel y bara a fwytaodd yr hynafiaid; buont hwy farw. Caiff y sawl sy'n bwyta'r bara hwn fyw am byth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwn yw y Bara a ddaeth i waered o'r Nef. Nid megys y bwytâodd y Tadau, ac y buont feirw: yr hwn sydd yn bwyta y Bara hwn a fydd byw yn dragywydd.