John 6:59 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y pethe hyn a ddyvot ef yn y Synagog, gan y dyscu hvvy yn‐Capernaum.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn a ddywedodd Efe yn y sunagog, pan yn dysgu yn Caphernahwm.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn a ddywedodd mewn synagog wrth ddysgu yng Nghapernaum.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapernaum.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu y pethau hyn wrth ddysgu yn y synagog yng Nghapernaum.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y pethau hyn a ddywedodd efe mewn Synagog, wrth ddysgu yn Capernaum.