John 6:61 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr yr Iesu yn gwybot yndo ef bot ei ddiscipulon yn murmuro wrth hyn, a ðyvot wrthynt, A yd yw hyn ych rhwystro chwi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu yn gwybod Ynddo Ei hun mai grwgnach am hyn yr oedd Ei ddisgyblion, a ddywedodd wrthynt, Ai hyn sydd i chwi yn dramgwydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond meddai’r Iesu wrthynt, ag yntau’n gwybod ynddo’i hun fod ei ddisgyblion yn murmur am hyn: “Ai hyn sydd yn eich maglu?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan wybu'r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chi'n mynd i droi cefn arna i?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyddai Iesu ynddo'i hun fod ei ddisgyblion yn grwgnach am ei eiriau, ac meddai wrthynt, "A yw hyn yn peri tramgwydd i chwi?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu yn gwybod ynddo ei hun fod ei Ddysgyblion yn grwgnach yn nghylch hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn peri i chwi dramgwydd?