John 6:65 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvawt, Am hyny y dywedais wrthych, na aill nep ddyvot ata vi, any’ s rhoðir y dd‐ aw y gan vy‐Tat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd, O achos hyn y dywedais wrthych, Ni all neb ddyfod Attaf, oni bydd wedi ei roddi iddo gan Fy Nhad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai ef: “Oherwydd hyn y dywedais wrthych na all neb ddyfod ataf i heb fod hynny wedi ei roddi iddo gan y tad.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth yn ei flaen i ddweud, “Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoi'r gallu iddyn nhw ddod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyna pam," meddai, "y dywedais wrthych na allai neb ddod ataf fi heb i'r Tad beri iddo wneud hynny."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, O herwydd hyn yr wyf wedi dywedyd wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr ei fod wedi ei roddi iddo oddi wrth y Tâd.