John 6:71 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef ddywedei hyny am Iudas Iscariot ’ap Simon: can ys hwn oedd ai vryd ar y vradychu ef, ac efe yn vn o’r deuddec.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedai am Iwdas, mab Shimon Ishcariot, canys hwn oedd ar fedr Ei draddodi Ef, un o’r deuddeg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Sôn yr oedd am Iwdas fab Simon o Gerioth, canys hwn wedi hynny a’i bradychai ef, ag yntau’n un o’r deuddeg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr efe a ddywedasai am Jwdas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o'r deuddeg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Jwdas, mab Simon Iscariot oedd yn ei olygu, yr un oedd yn mynd i'w fradychu yn nes ymlaen — er ei fod yn un o'r deuddeg disgybl.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn siarad am Jwdas fab Simon Iscariot, oherwydd yr oedd hwn, ac yntau'n un o'r Deuddeg, yn mynd i'w fradychu ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedasai am Judas, mab Simon Iscariot; canys hwn oedd ar fedr ei draddodi ef i fyny, ac yntau yn un o'r Deuddeg.