John 6:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mae yma vachcenyn, a’ phemp torth haidd ganthaw, a’ dau pyscodyn: eithyr beth yw hynny ymplith cynniver?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Andreas, brawd Shimon Petr, Y mae bachgennyn yma, a chanddo bum torth haidd a dau bysgodyn; eithr y rhai hyn, pa beth ydynt rhwng cynnifer?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Y mae yma fachgen bach a chanddo bum torth haidd a dau bysgodyn, ond beth yw hynny rhwng cynifer?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae yma fachgenyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw y rhai hyn i gymaint?