John 7:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ murmur mawr oedd am danaw ym‐plith y popul oedd. Rei a ddywedent, Y mae ef yn wr da: yr eill a ddawedynt, Ny d yvv ef: eithr y mae e yn twyllo yr bopl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r murmur am Dano oedd fawr yn y torfeydd: rhai a ddywedent, Dyn da yw; ac eraill a ddywedent, Nage, eithr ar gyfeiliorn yr arwain Efe y dyrfa.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd cryn siarad yn ei gylch ymhlith y tyrfaoedd a rhai’n dywedyd: “Dyn da ydyw,” ac eraill yn dywedyd: “Nage, ond camarwain y bobl y mae;”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo'r bobl y mae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd llawer o siarad amdano'n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd llawer o sibrwd amdano ymhlith y tyrfaoedd: rhai yn dweud, "Dyn da yw ef", ond "Na," meddai eraill, "twyllo'r bobl y mae."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A grwgnach lawer oedd am dano ef yn mysg y torfeydd: rhai a ddywedent, Gwr da yw: ond eraill a ddywedent, Na, eithr cam‐arwain y dyrfa y mae.