John 7:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s wyllysa nep weneuthur y ’wyllys ef, ef a wybydd am y d d ysc ceideth, ay o Dduw y mae hi, ai mi vi sy yn llavaru o hano vy h un.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os ewyllysia neb wneuthur Ei ewyllys Ef, caiff wybod am y dysgad, pa un ai o Dduw y mae, ai Myfi o Honof Fy hun wyf yn llefaru.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os myn neb wneuthur ei ewyllys ef, daw i wybod am y ddysgeidiaeth, ai o Dduw y mae ai myfi sydd yn siarad ohonof fy hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pwy bynnag sy'n dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw i'n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a fy mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag sy'n ewyllysio gwneud ei ewyllys ef, caiff wybod a yw'r hyn yr wyf yn ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, ai ynteu siarad ohonof fy hunan yr wyf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a ddaw i wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae, ai fy mod i yn llefaru o honof fy hun.