John 7:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn a lefair o hano y h un, a ym gais y ’ogoniant y h un: eithr hwn a ym gais ’ogoniant yr vn ai d anvonawdd ef, hwnw ’sy gywir, a’ dim ancyfiawnder ynto ny d oes.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n llefaru o hono ei hun, ei ogoniant ef ei hun a gais efe; ond yr hwn sy’n ceisio gogoniant yr hwn a’i danfonodd ef, hwn sydd wir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae’r hwn sy’n siarad ohono’i hun yn ceisio gogoniant personol, ond y neb sy’n ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, y mae hwnnw’n gywir ac nid oes anwiredd ynddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae'r hwn sydd yn llefaru ohono'i hun, yn ceisio'i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sy'n siarad ohonyn nhw eu hunain yn ceisio ennill anrhydedd iddyn nhw eu hunain, ond mae'r un sy'n gweithio i anrhydeddu'r un wnaeth ei anfon e yn ddyn gonest; does dim byd ffals amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r sawl sy'n siarad ohono'i hun yn ceisio anrhydedd iddo'i hun; ond y mae'r sawl sy'n ceisio anrhydedd i'r hwn a'i hanfonodd yn ddiffuant ac yn ddiddichell.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn llefaru o hono ei hun sydd yn ceisio ei ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd ef, hwnw sydd wir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo.