John 7:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny Moysen a roes y‐chwy Enwaediat, (nyd can y vot o Voysen, eithr am y vot o’r Tadae) a’ chvvi ar y dydd Sabbath a enwaedwch ar ddyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn y bu i Mosheh roddi i chwi yr amdorriad (nid gan mai o Mosheh y mae, eithr o’r tadau), ac ar Sabbath yr amdorrwch ar ddyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hyn y rhoes Moesen i chwi yr enwaediad — nid bod hynny oddiwrth Foesen ond oddiwrth y tadau — a byddwch yn enwaedu ar ddyn ar y Sabath.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o'r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto, am fod Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau'r genedl), dych chi'n enwaedu bachgen ar y Saboth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd Moses i chwi ddefod enwaediad er nad gyda Moses y cychwynnodd ond gyda'r patriarchiaid ac yr ydych yn enwaedu ar blentyn ar y Saboth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Moses sydd wedi rhoddi i chwi yr Enwaediad nid am ei fod o Moses, ond o'r Tadau ac ar ddydd Sabbath chwi a enwaedwch ddyn.