John 7:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ s d erbyn dyn ar y Sabbath enwaediat, rac bod tori Deðyf Moysen, a ddigiwch vvi wrthy vi, can y‐my wneuthur dyn yn h oll‐iach ar y dydd Sabbath?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os amdorriad a dderbyn dyn ar Sabbath, fel na thorrer Cyfraith Mosheh, ai wrthyf Fi y llidiwch am mai yr holl ddyn a wnaethum yn iach ar y Sabbath.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os caiff dyn enwaediad ar y Sabath, a chyfraith Moesen heb ei thorri, a ydych yn ddig wrthyf i am fy mod wedi gwneuthur dyn cyfan yn iach ar y Sabath?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, os ydy'n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os enwaedir ar blentyn ar y Saboth rhag torri Cyfraith Moses, a ydych yn ddig wrthyf fi am imi iachu holl gorff rhywun ar y Saboth?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar ddydd Sabbath, fel na thorer Cyfraith Moses, a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn cyfan yn iach ar ddydd Sabbath?