John 7:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A nachaf yr ymadrodd ef yn gyhoeddus ac ny ddywedant ddim wrthaw: a wyr y penaethieit yn ddiau ma e hwn yw’r gwir Christ?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, yn gyhoedd y llefara, ac Wrtho ni ddywedant ddim. Ysgatfydd a ŵyr y pennaethiaid yn wir mai Hwn yw’r Crist?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma yntau’n siarad yn agored, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho. Tybed bod y penaethiaid yn gwybod yn wir mai hwn yw’r Eneiniog?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu'r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n siarad yn gwbl agored, a dŷn nhw'n dweud dim! Tybed ydy'r awdurdodau wedi dod i'r casgliad mai fe ydy'r Meseia?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma fe'n siarad yn agored heb i neb ddweud dim yn ei erbyn. Tybed a yw'r llywodraethwyr wedi dod i wybod i sicrwydd mai hwn yw'r Meseia?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele y mae yn llefaru yn eofn, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef! A ddaeth y Llywodraethwyr erioed i wybod mewn gwirionedd mai hwn yw y Crist?