John 7:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ni adwaenam hwn o b’le ymae ef: a’ phan ddel y Christ, ny wybydd nep o b’le y mae ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr Hwn, gwyddom o ba le y mae; ond y Crist, pan ddelo, nid oes neb yn gwybod o ba le y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gwyddom ni am hwn, o ba le y mae, ond am yr Eneiniog pan ddêl, ni ŵyr neb o ba le y mae.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn, dŷn ni'n gwybod o ble mae'r dyn hwn yn dod; pan ddaw'r Meseia, fydd neb yn gwybod o ble mae'n dod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac eto, fe wyddom ni o ble y mae'r dyn yma'n dod; ond pan ddaw'r Meseia, ni bydd neb yn gwybod o ble y mae'n dod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr ydym ni yn adwaen hwn o ba le y mae: eithr y Crist, pan y mae yn dyfod, nid oes neb yn gwybod o ba le y mae.