John 7:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y llefai yr Iesu yn y Templ ac ef yn ei dyscu, gan ðywedyt, Ys adwaenoch vi, ac adwaenoch o b’le ydd wyf: ac ny ddaethym o hano vy h un, eithr ys gwir yw’r vn am d anvonawdd i, yr hwn nyd adwaenw‐chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, y gwaeddodd yr Iesu, pan yn dysgu yn y deml, a chan ddywedyd, Yn gystal Myfi a adwaenoch, a gwyddoch o ba le yr wyf: ac nid o Honof Fy hun y daethum, eithr gwir yw’r Hwn a’m danfonodd, yr Hwn nid ydych chwi yn Ei adnabod:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly gwaeddodd yr Iesu, wrth ddysgu yn y deml, a dywedodd: “Myfi a adwaenoch a gwyddoch o ba le yr wyf. Ac ohonof fy hunan ni ddeuthum, ond y mae un gwirioneddol a’m hanfonodd i, yr hwn ni wyddoch chwi amdano.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a'm hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a'm hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n dal i ddysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, a dyma fe'n cyhoeddi'n uchel, “Ydych chi'n fy nabod i, ac yn gwybod o ble dw i'n dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw sydd wedi fy anfon i go iawn, a dych chi ddim yn ei nabod e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar hynny, cyhoeddodd Iesu'n uchel, wrth ddysgu yn y deml, "Yr ydych yn f'adnabod i ac yn gwybod o ble rwy'n dod. Ond nid wyf wedi dod ohonof fy hun. Y mae'r hwn a'm hanfonodd i 'i hanfod yn wirionedd, ond nid ydych chwi'n ei adnabod ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny a lefodd allan yn y Deml, gan ddysgu a dywedyd, Chwi a'm hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: eto, nid ydwyf wedi dyfod o honof fy hun, ond yr hwn a'm hanfonodd i sydd yn un gwirioneddol, yr hwn nid adwaenoch chwi.