John 7:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedynt gan hyny ei vroder wrthaw, Dos ymaith o yma, a’ cherdda i Iudaia, val ac y gwelo dy ðiscipulon dy weithredoedd yr ei a wnei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, dywedodd Ei frodyr Wrtho, Dos drosodd oddiyma, a chilia i Iwdea, fel y bo i’th ddisgyblion hefyd weled Dy weithredoedd y rhai yr wyt yn eu gwneuthur:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd ei frodyr felly wrtho: “Cerdda oddiyma a dos ymaith i Iwdea, er mwyn i’th ddisgyblion hefyd weled dy weithredoedd yr wyt yn eu gwneuthur,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma frodyr Iesu'n dweud wrtho, “Dylet ti adael yr ardal hon a mynd i Jwdea, i'r dilynwyr sydd gen ti yno gael gweld y gwyrthiau wyt ti'n eu gwneud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac felly dywedodd ei frodyr wrtho, "Dylit adael y lle hwn a mynd i Jwdea, er mwyn i'th ddisgyblion hefyd weld y gweithredoedd yr wyt ti'n eu gwneud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny ei Frodyr ef a ddywedasant wrtho, Symud oddi yma, a dos ymaith i Judea, fel hefyd y gwelo dy Ddysgyblion dy weithredoedd di, y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.